2013 Rhif 1800 (Cy. 182) (C. 74)

ADDYSG, CYMRU

Gorchymyn Deddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013 (Cychwyn Rhif 2, Darpariaethau Arbed a Throsiannol) 2013

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)

Dyma’r ail orchymyn cychwyn a wnaed gan Weinidogion Cymru o dan Ddeddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013 (“Deddf 2013”).

Mae’r Gorchymyn hwn yn cychwyn adrannau 38 a 39 o Ddeddf 2013 i’r graddau nad yw’r adrannau hynny eisoes mewn grym ar 19 Gorffennaf 2013.

Mae’r Gorchymyn hwn hefyd yn dwyn i rym ar 1 Hydref 2013 y darpariaethau a ganlyn:

(a)     Pennod 2 o Ran 3 (cynigion trefniadaeth ysgolion);

(b)     Pennod 3 o Ran 3 (rhesymoli lleoedd ysgol);

(c)     Pennod 4 o Ran 3 (darpariaeth ranbarthol ar gyfer anghenion addysgol arbennig);

(d)     Pennod 5 o Ran 3 (cynigion i ailstrwythuro addysg chweched dosbarth);

(e)     Pennod 6 o Ran 3 (darpariaethau amrywiol ac atodol);

(f)      Atodlen 2 (newidiadau rheoleiddiedig);

(g)     Atodlen 3 (gweithredu cynigion statudol);

(h)     paragraffau 1 i 7 a pharagraffau 9 i 39 o Atodlen 4 (gweithredu cynigion i newid categori ysgol);

(i)      adran 99 (mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol) i’r graddau y mae’n ymwneud â’r diwygiadau a wneir gan Ran 2 o Atodlen 5; a

(j)      Rhan 2 o Atodlen 5.

Mae erthygl 4 o’r Gorchymyn hwn yn arbed amryw ddarpariaethau ym Mhennod 2 o Ran 2 o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 (“Deddf 1998”) mewn perthynas ag:

(a)     cynigion trefniadaeth ysgolion a gyhoeddir o dan adrannau 28, 29, 31 a 35 o Ddeddf 1998 cyn 1 Hydref 2013;

(b)     hysbysiad gan gorff llywodraethu i derfynu ysgol sefydledig neu ysgol wirfoddol a gyflwynir o dan adran 30 o Ddeddf 1998 cyn 1 Hydref 2013; ac

(c)     cyfarwyddyd sy’n ei gwneud yn ofynnol i ysgol arbennig gymunedol neu ysgol arbennig sefydledig gael ei therfynu a roddir o dan adran 32 o Ddeddf 1998 cyn 1 Hydref 2013.

Mae erthygl 5 o’r Gorchymyn hwn yn darparu hyd nes bod adran 21(1) o Fesur Addysg (Cymru) 2011 wedi cychwyn fod y cyfeiriad at ysgol ffederal yn adran 78 o Ddeddf 2013 i gael effaith fel pe bai'n gyfeiriad at “federated school” yn adran 24(2) o Ddeddf Addysg 2002.

 

NODYN AM Y GORCHMYNION CYCHWYN CYNHARACH

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)

 

Y Ddarpariaeth

Y Dyddiad Cychwyn

Rhif O.S.

38, 39, 97 a 98

26 Ebrill 2013 i’r graddau y mae’r darpariaethau hynny yn ymwneud â gwneud a gosod y Cod Trefniadaeth Ysgolion

O.S. 2013/1000

(Cy.105)

97 a 98

4 Mai 2013 yn llawn

O.S. 2013/1000

(Cy.105)

 

 

 


2013 Rhif 1800 (Cy. 182) (C. 74)

ADDYSG, CYMRU

Gorchymyn Deddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013 (Cychwyn Rhif 2, Darpariaethau Arbed a Throsiannol) 2013

Gwnaed                           16 Gorffennaf 2013

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adran 100 o Ddeddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013([1]) yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:

Enwi a dehongli

1.(1)(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013 (Cychwyn Rhif 2, Darpariaethau Arbed a Throsiannol) 2013.

(2) Yn y Gorchymyn hwn—

ystyr “Deddf 1998” (“the 1998 Act”) yw Deddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998([2]); ac

ystyr “Deddf 2013” (“the 2013 Act”) yw Deddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013.

Darpariaethau sy’n dod i rym ar 19 Gorffennaf 2013

2. Y diwrnod penodedig ar gyfer dod ag adrannau 38 a 39 o Ddeddf 2013 i rym yw 19 Gorffennaf 2013, i’r graddau nad yw’r adrannau hynny eisoes mewn grym.

Darpariaethau sy’n dod i rym ar 1 Hydref 2013

3. Yn ddarostyngedig i erthyglau 4 a 5 y diwrnod penodedig ar gyfer dod â’r darpariaethau a ganlyn o Ddeddf 2013 i rym yw 1 Hydref 2013—

(a)     Pennod 2 o Ran 3 (cynigion trefniadaeth ysgolion);

(b)     Pennod 3 o Ran 3 (rhesymoli lleoedd ysgol);

(c)     Pennod 4 o Ran 3 (darpariaeth ranbarthol ar gyfer anghenion addysgol arbennig);

(d)     Pennod 5 o Ran 3 (cynigion i ailstrwythuro addysg chweched dosbarth);

(e)     Pennod 6 o Ran 3 (darpariaethau amrywiol ac atodol);

(f)      Atodlen 2 (newid rheoleiddiedig);

(g)     Atodlen 3 (gweithredu cynigion statudol);

(h)     paragraffau 1 i 7 a pharagraffau 9 i 39 o Atodlen 4 (gweithredu cynigion i newid categori ysgol);

(i)      adran 99 (mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol) i’r graddau y mae’n ymwneud â’r diwygiadau a wneir gan Ran 2 o Atodlen 5; a

(j)      Rhan 2 o Atodlen 5.

Arbedion mewn perthynas â Phennod 2 o Ran 2 o Ddeddf 1998

4. Er bod Penodau 2 a 6 o Ran 3 o Ddeddf 2013 a’r diddymiadau canlyniadol yn Rhan 2 o Atodlen 5 i’r Ddeddf honno yn dod i rym—

(a)     bydd darpariaethau adrannau 28, 29, 31 a 35 o Ddeddf 1998 ac Atodlenni 6 ac 8 iddi yn parhau i fod yn gymwys mewn perthynas ag unrhyw gynigion a gyhoeddir o dan yr adrannau hynny cyn 1 Hydref 2013;

(b)     bydd darpariaethau adran 30 o Ddeddf 1998 yn parhau i fod yn gymwys mewn perthynas ag unrhyw hysbysiad a gyflwynir o dan adran 30 o Ddeddf 1998 cyn 1 Hydref 2013;

(c)     bydd darpariaethau adran 32 o Ddeddf 1998 yn parhau i fod yn gymwys mewn perthynas ag unrhyw gyfarwyddwyd a roddir o dan yr adran honno cyn 1 Hydref 2013; a

(d)     bydd darpariaethau adran 33 o Ddeddf 1998 yn parhau i fod yn gymwys mewn perthynas â chynigion a gyhoeddir o dan adrannau 28, 29, 31 neu 35 o Ddeddf 1998 cyn 1 Hydref 2013.

 

Darpariaeth Drosiannol

5. Hyd nes bod adran 21(1) o Fesur Addysg (Cymru) 2011([3]) wedi cychwyn mae’r cyfeiriad at ysgol ffederal yn adran 78 o Ddeddf 2013 i gael effaith fel pe bai'n gyfeiriad at “federated school” yn adran 24(2) o Ddeddf Addysg 2002([4]).

 

 

Huw Lewis

 

Y Gweinidog Addysg a Sgiliau, un o Weinidogion Cymru

 

16 Gorffennaf 2013



([1])           2013 dccc 1.

([2])           1998 p.31.

 

([3])           2011 mccc 7.

([4])           2002 p.32.